gwasanaeth i bawb: cyflwyniad i’r ombwdsmon
Rwy’n gofalu fod pethau’n ôl yn iawn …
Hi, Kate ydw i. Fel dyfarnydd, rwy’n gweithio ar yr achosion mae Peter a’i dîm yn eu hanfon ymlaen ataf i i’w datrys.
Mae fy ngwaith yn cynnwys edrych yn ofalus ar ddwy ochr y gŵyn a phwyso a mesur yr holl ffeithiau o'm blaen. Y ffeithiau ac amgylchiadau unigol sydd o bwys ym mhob achos – nid pa mor dda mae’r naill ochr na’r llall yn dadlau’r achos.
Fel arfer golyga hynny fy mod yn gallu cael eglurhad neu ddatrysiad sy’n bodloni’r ddwy ochr. Mae’n foddhaol iawn gallu datrys problemau fel hyn – dim ond drwy edrych o’r newydd ar yr hyn sydd wedi mynd o’i le a chanfod ateb sy’n gweithio.